Ben Rhys
Gan Gwilym Bowen Rhys
Ben Rhys ydw i. Ac rwy’n löwr o ddyn.
Ac yn Gymro glân o dan fy nghragen fudur.
Un o forgryg y pwll, sydd ynghanol fy Nghwm.
Ac rwy’n naddu yn y fagddu byth a beunydd.
Ie, rwy’n naddu hyd fy nyddiau i gael bara ar y bwrdd.
Yn llafurio am oriau, dan y lloriau yn y ffwrn.
Ie, dwi’n gweithio dan galedwch, ac yn chwysu’n y tywyllwch.
Ond, i ennill man geiniogau. Gwneud dyletwsydd tad a gŵr.
Un gwawr ganol haf, rwy’n disgyn i’r pwll, a’r lleithder yn y muriau yn cau amdanaf.
O dan, prenau brau, a’r gannwyll yn noeth. Dwi’n gadael golau dydd am y tro olaf.
Ie, dwi’n gadael golau dydd, yn ddiniwed i fy ffawd. A’r diffyg aer yn llethol ac yn gwasgu ar fy nghnawd, ie, dwi’n mygu yn y nwyon, ym myddarol sŵn morthwylion. Curiad caib a churiad calon yn cyflymu yn fy mron.
Wwwwwwwww
Ben Rhys ydw i, gynt yn löwr o ddyn, ac yn Gymro glân o dan fy nghragen fudur. Yn ŵr, tad a brawd, un o bedwar mewn bedd.
Ar bedd yn un o’r ugain sydd ar agor. Ie, mae’r bedd yn un o’r ugain sydd ar agor yn fy Nhwm. Ac mae’r gweddwon yn galaru, gyda’i plant yn wylo’n drwm.
Dan ormes traed y meistri. Ond i lenwi eu pocedi. Sydd yn dianc rhag cyfianwnder.
Anghyfiawnder i’r dydd hwn.
Lyrics Submitted by Llinos Haf Spencer
Lyrics provided by https://damnlyrics.com/