damnlyrics.com

A Glywi Di?

A glywi di'r daran yn tori?

A weli di'r fellten fan draw?

Nid storom sy'n bygwth o gwbwl,

Nid storom o wyntoedd a glaw.

Ond rhyfel yw'r sŵn ar y gorwel,

A'r bomiau sy'n tanio fel mellt,

Mae rhywun yn marw yn rhywle,

A'i gwaed sy'n gymysg a'r gwellt.

Mae plentyn i rhywun mewn perig,

A baban i rhywun mewn poen.

Mae dychryn yn llenwi ei llygaid,

A phryfed a gwaed ar eu croen.

Mae'r brenin yn bregliach am ryddid,

A'i gydlywydd yn mali am hawl,

Tra bo'r mamau yn ffoi rhag yr angau,

A'u rhyddid yn eiddo i'r diawl.

A glywi di'r lleisiau yn galw?

A weli di'r gwaed ar y sryd?

Mae'r bobol yn gwaeddi am heddwch,

Yn gwaeddi am heddwch o hyd.

A ni sydd yn cwyno am gynydd,

A'n harfau mor loyw a glan,

Oni allwn i estyn ein dwylo

A thynni y plentyn o'r tan.

Oni allwn i estyn ein dwylo

A thynni y plentyn o'r tan.

Lyrics Submitted by Brian Thomas

Enjoy the lyrics !!!