damnlyrics.com

Fel Hyn am Byth

A be tisho bod pan rwyt ti’n hŷn?

Lle tisho ffitio o fewn y llun?

Efo’r darnau bach gwyrdd sy’n tynnu chdi lawr,

Efo’r linell fach wen sy’n gwneud dy ben di’n fawr?

Oh.... Paid troi’n hŷn, a chad dy wên,

A tyfa’n hŷn, paid tyfu’n ddyn,

Gai aros fel hyn am byth?

Dim cyfrifoldeb, dim math o ddiddordeb,

Aros fel hyn am byth,

Dim achos poeni, dim achos aeddfedu.

A be tisho bod pan rwyt ti’n hŷn?

Lle tisho ffitio o fewn y llun?

Ti’n gwybod yn iawn lle ti’n mynd,

Ti’n dilyn y llwybr, crio fy ffrind.

Oh.... Paid troi’n hŷn, a chad dy wên,

A tyfa’n hŷn, paid tyfu’n ddyn,

Gai aros fel hyn am byth?

Dim cyfrifoldeb, dim math o ddiddordeb,

Aros fel hyn am byth,

Dim achos poeni, dim achos aeddfedu.

Lyrics Submitted by Llinyn Arian

Enjoy the lyrics !!!