damnlyrics.com

Lisa Lan

Bûm yn dy garu lawer gwaith

Do lawer awr mewn mwynder maith

Bûm yn dy gusanu Lisa gêl

Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd

Tydi yw'r lanaf yn y byd

Tydi sy'n peri poen a chri

A thi sy'n dwyn fy mywyd i.Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd

Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd

Wrth glywed sŵn yr adar mân

Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr

Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr

Wrth glywed sŵn yr adar mân

Daw hiraeth mawr am Lisa lân.

Lisa, a ddoi di i'm danfon i

I roi fy nghorff mewn daear ddu?

Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind

Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.Hiraeth mawr am Lisa Lân.

Hiraeth mawr am Lisa Lân.

Song Discussions is protected by U.S. Patent 9401941. Other patents pending.

Enjoy the lyrics !!!