damnlyrics.com

Yn y Dwys Ddistawrwydd

Yn y dwys ddistawrwydd

dywed air, fy Nuw;

torred dy leferydd

sanctaidd ar fy nghlyw.

O fendigaid Athro,

tawel yw yr awr;

gad im weld dy wyneb,

doed dy nerth i lawr.

Ysbryd, gras a bywyd

yw dy eiriau pur;

portha fi â’r bara

sydd yn fwyd yn wir.

Dysg fi yng ngwybodaeth

dy ewyllys lân;

nerth dy gariad ynof

dry dy ddeddfau’n gân.

Megis gardd ddyfradwy,

o aroglau’n llawn,

boed fy mywyd, Arglwydd,

fore a phrynhawn.

EMILY M. GRIMES, 1864-1927 (Speak Lord in the stillness)

cyf. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams.

Lyrics Submitted by Dewi Poole

Enjoy the lyrics !!!