DamnLyrics - The center provides all the lyrics

Yn y Dwys Ddistawrwydd - Côr Meibion Bro Aled



     
Page format: Left Center Right
Direct link:
BB code:
Embed:

Yn y Dwys Ddistawrwydd Lyrics


Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw;
torred dy leferydd
sanctaidd ar fy nghlyw.
O fendigaid Athro,
tawel yw yr awr;
gad im weld dy wyneb,
doed dy nerth i lawr.
Ysbryd, gras a bywyd
yw dy eiriau pur;
portha fi â’r bara
sydd yn fwyd yn wir.
Dysg fi yng ngwybodaeth
dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof

dry dy ddeddfau’n gân.
Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau’n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn.
EMILY M. GRIMES, 1864-1927 (Speak Lord in the stillness)
cyf. NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams.
Lyrics Submitted by Dewi Poole

Enjoy the lyrics !!!