Dagrau'r Glaw - Rhian Mair Lewis
| Page format: |
Dagrau'r Glaw Lyrics
Mae ‘na luniau lliw yn fflachio ar feddalwedd cudd y cof,
Mae 'na fam ha’i merch yn sefyll yn y glaw,
Ac mae’r goleuadau neon oer yn gwaedu’r pyllau’r stryd,
A siôl y ferch yn gorwedd yn y baw.
Mae pawb yn cerdded heibio’n syth,
Heb droi i edrych draw,
Heb falio dim na chynnig help i’r ddau.
O dwi’n cofio’r noson honno,
Sêr yn nwylo dagrau’r glaw,
Cofio teimlo fod y daith yn ddi-ben-draw
Gwelaf lun o wyneb gwelw,
Llun merch ifanc ddeunaw oed,
Llun o rywun dwi’m yn nabod erbyn hyn.
Fi oedd honno yn y gwter,
Ti oedd honno ar y stryd,
Yn gwerthu’r cyffur gwyn,
Ti oedd yr un.
Ti oedd ffynnon ein gobeithion
Ti yw’r creithiau ar ein croen,
Ym mhob hunllef rydw i’n dal i weld dy lun
O dwi’n cofio’r noson honno,
Sêr yn nwylo dagrau’r glaw,
Cofio teimlo fod y daith yn ddi-ben-draw
Cofio teimlo fod y daith yn ddi-ben-draw
Cofio teimlo fod y daith yn ddi-ben-draw
Lyrics Submitted by Gerwyn W